Mae cynllun gwella addysg gwerth £7 miliwn Llywodraeth Cymru dan y lach unwaith eto’r wythnos hon.

Ddoe ac echdoe roedd athrawon yn Llandudno yn derbyn hyfforddiant ar sut i ddysgu’r cynllun newydd i blant er mwyn codi safonau rhifedd a mathemateg.

Roedd golwg360 ar ddeall gan athrawon anhapus a oedd yno bod yr holl gwrs wedi ei gynnal yn uniaith Saesneg gan staff o Brifysgol Birmingham, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef nad oedd unrhyw Gymraeg ar gyfyl y ddarpariaeth.

Meddai’r Llywodraeth yn eu datganiad: “Rydyn ni eisiau i athrawon i gael y mwyaf o’r cyrsiau pwysig hyn ac i’r cyrsiau gael eu cyflwyno yn yr iaith sydd fwyaf priodol.  Rydyn ni ar ddeall o’r contractwr nad oedd hyn yn bosib ar yr achlysur hwn ac y byddan nhw’n gwneud yn siwr y bydd y cyrsiau hyn yn cael eu cyflwyno yn y ffordd fwyaf priodol yn y dyfodol.”

Yn ymateb i’r ffaith mae Prifysgol Birmingham fu’n cynnal y cyrsiau, fe ofynnodd un o swyddogion Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru: “Pam fod y Cynulliad yn darparu rhywun i hyfforddi sydd ddim yn ymwybodol o anghenion y Cymry?”

Cwynion blaenorol

Cafodd y cynllun Rhaglen Gymorth Genedlaethol ei lansio ym mis Mawrth a golwg360 yn adrodd ar y pryd bod cwynion am safon yr iaith mewn cyflwyniad PowerPoint yn Llandudno ar y pryd. Dywedodd llefarydd Addysg yr Wrthblaid yn y Cynulliad fod y camgymeriadau’n glec i hygrededd y cynlluniau ar gyfer gwella sgiliau sillafu a darllen.