Gethin Jenkins
Mi fydd prop Gleision Caerdydd yn ennill ei ganfed cap dros Gymru dydd Sadwrn yn erbyn Yr Ariannin. Gethin Jenkins fydd y pedwerydd chwaraewr yn hanes Cymru i ymddangos cant o weithiau yn y crys coch.
Yn ymuno â Jenkins yn y rheng flaen fe fydd bachwr y Gweilch Richard Hibbard ac wrth ei ochr ef bydd prop y Scarlets, Rhodri Jones sydd yn cymryd lle Adam Jones sy’n colli gweddill gemau’r Hydref oherwydd anaf i’w goes.
Mae Bradley Davies a Alun Wyn Jones wedi cadw eu lle yn yr ail reng, ond yn y rheng-ôl mi fydd Sam Warburton a Justin Tipuric fydd yn gwisgo’r crys rhif saith am fod Dan Lydiate wedi anafu ei bigwrn yn ystod gêm De Affrica, a Toby Faletau fydd wrth gefn y sgrym.
Ychydig o newidiadau sydd i’r olwyr a gollodd yn erbyn De Affrica.
Bydda Dan Biggar yn disodli Rhys Priestland a Cory Allen yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru wrth ochr Scott Williams yng nghanol y cae.
Cyfle gwych
Mae rheolwr Cymru, Warren Gatland yn gweld hyn yn gyfle gwych i rai chwaraewyr.
‘‘Rydyn ni wedi gwneud nifer o newidiadau oherwydd anafiadau, ond mae’n gyfle gwych i chwaraewyr sydd wedi creu argraff arnon’ ni. Mi fydd hi’n gyfle arbennig i Cory Allen ac yn gyfle i Rhodri Jones magu profiad.
“Mae’r anaf i Dan Lydaite yn rhoi cyfle i Justin Tipuric a chwaraeodd yn dda wrth ddod oddi ar y fainc yr wythnos diwethaf,’’ meddai.
Tîm Cymru
Olwyr – Leigh Halfpenny, George North, Cory Allen, Scott Williams, Liam Williams, Dan Biggar a Mike Phillips.
Blaenwyr – Gethin Jenkins, Richard Hibbard , Rhodri Jones , Bradley Davies , Alun Wyn Jones, Sam Warburton, Justin Tipuric a Toby Faletau.
Eilyddion – Ken Owens, Paul James, Samson Lee, Luke Charteris, Ryan Jones, Lloyd Williams, James Hook a Ashley Beck.