James Way
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn 30 oed o Laneirwg, Caerdydd wedi cyhuddo dyn 46 oed o Drelluest o’i lofruddio.

Yn gynharach heddiw cafodd dyn 42 oed o Fynachdy arestiwyd ddydd Sul ei ryddhau heb gyhuddiad yn ei erbyn.

Aethpwyd a James Way i Ysbyty Athrofaol Caerdydd toc ar ôl 9am ddydd Sul, 20 Chwefror. Roedd yn anymwybodol ac fe fu farw yn fuan wedyn.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cynnal ymchwiliad trwyadl i beth ddigwyddodd mewn adeilad ar Stryd Holmesdale, Trelluest, yn ystod prynhawn dydd Sadwrn, 19 Chwefror.

“Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth ac am y wybodaeth yr ydyn ni wedi ei dderbyn hyd yma,” meddai’r Uwch Swyddog Ymchwiliadol Mark Lewis, o Dîm Archwilio Troseddau Arbenigol Heddlu De Cymru.

“Os oes unrhyw un yn credu fod ganddyn nhw wybodaeth fyddai o gymorth i’r ymchwiliad fe ddylen nhw ffonio 02920 571 530.”

Gall y cyhoedd hefyd gysylltu gyda Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.