Jake Griffiths
Roedd glo Cymru wedi pweru Prydain yn ystod dyddiad yr Ymerodraeth, ac fe ddylai egni adnewyddadwy Cymru bweru Prydain heddiw, yn ôl arweinydd Plaid Werdd y wlad.

Fe fydd Jake Griffiths yn herio polisïau’r glymblaid ym Mae Caerdydd a thoriadau’r glymblaid yn San Steffan mewn araith yng nghynhadledd ei blaid yng Nghaerdydd heddiw.

Bydd Jake Griffiths yn sefyll yn rhanbarth Canol De Cymru yn Etholiadau’r Cynulliad ar 5 Mai, gyda’r nod o ennill sedd gyntaf i’r blaid yng Nghymru.

Mae ganddyn nhw eisoes aelod yn San Steffan, a dau aelod yn Senedd yr Alban.

Yn ei araith fe fydd Jake Griffiths yn ymosod ar fethiant Llywodraeth y Cynulliad i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a thorri dibyniaeth y wlad ar danwydd ffosil.

Fe fydd hefyd yn beirniadu cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu pwerdy niwclear newydd ar Ynys Môn.

“Roedd Cymru yn arfer pweru’r byd ac mae ganddi gyfle i fod yn ganolbwynt i’r economi gwyrdd,” meddai Jake Griffiths.

“Ond mae polisïau Llywodraeth y Cynulliad yn golygu nad yw’r wlad wedi datblygu’r economi carbon isel sydd ei angen.

“Mae polisïau’r Blaid Werdd yn seiliedig ar yr hir dymor, tra bod toriadau Llywodraeth San Steffan yn anelu am ostyngiad tymor byr yn y diffyg ariannol.”

Mae Jake Griffiths hefyd yn bwriadu annog pleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ar ragor o bwerau deddfu i Lywodraeth y Cynulliad yr wythnos nesaf.