Un o'r llythyrwyr, yr Archesgob Barry Morgan
Mae holl esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi arwyddo llythyr agored yn galw am roi’r gorau i recriwtio pobol ifanc 16 oed i’r Fyddin.

Mae’r Archesgob, Barry Morgan, hefyd ymhlith nifer o arweinwyr crefyddol sydd wedi cefnogi’r alwad gan gorff o’r enw Child Soldiers International.

Yn ôl y llythyr, mae milwyr ifanc iawn yn fwy tebyg o gael eu lladd mewn ymladd ac mae tua hanner y rhai 16 oed sy’n ymuno yn gadael cyn diwedd eu hyfforddiant.

Fe ddangosodd adroddiad diweddar hefyd bod rhagor o filwyr ifanc yn diodde’ o trawma a phroblemau tebyg.

Y ddadl

“Mae’r polisi recriwtio ar hyn o bryd yn anfon y recriwtiaid ieuengaf a lleia’ breintiedig i’r llefydd mwya’ peryglus yn y llinell flaen,” meddai’r llythyr.

“Trwy gydol yr ymladd yn Afghanistan, mae’r rhai sydd wedi cael eu recriwtio yn 16 oed wedi bod ddwywaith yn fwy tebyg o farw na recriwtiaid sy’n oedolion.”

Y cefndir

Yn ôl y ffigurau diweddara’ …

  • Fe gafodd 880 o recriwtiaid 16 oed eu listio yn y flwyddyn ddiwetha’.
  • Dyw hynna yn ddim ond chwarter y ffigwr ddeng mlynedd yn ôl.
  • Dydyn nhw ddim yn cael eu hanfon i ymladd nes cyrraedd 18 oed.
  • Mae tua hanner y recriwtiaid 16 oed yn gadael yn ystod eu cyfnod hyfforddi.