Bedwar mis yn unig ar ôl i’r epidemig mwyaf o’r frech goch yng Nghymru ddirwyn i ben pan gafodd dros 1,200 o achosion eu nodi, mae’r haint rŵan mewn pedair ysgol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant wedi cael yr ail frechiad MMR i’w diogelu rhag yr haint, sy’n debygol o fod yn cael ei basio ymlaen rhwng cyd-ddisgyblion.

“Mae rhieni sydd wedi penderfynu peidio a brechu eu plant nid yn unig yn peryglu iechyd eu plant nhw, ond hefyd yn rhoi plant eraill mewn perygl ” meddai Dr Jörg Hoffmann , Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r brechlyn MMR yn cael ei argymell gan Sefydliad Iechyd y Byd,  Adran Iechyd y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y ffordd fwyaf effeithiol a diogel i amddiffyn plant rhag y frech goch .