Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi gwrthod cynnal ymchwiliad tebyg i’r un a gafwyd ar y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

Ddiwrnod cyn i’r Ceidwadwyr gyflwyno cynnig yn galw am hynny, fe ddywedodd Carwyn Jones nad oedd dim meysydd arbennig a oedd angen ystyriaeth yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Roedd angen ymchwiliad yn Lloegr, meddai, oherwydd fod argyfwng yno … “Wnawn ni ddim creu anhrefn fel sydd wedi digwydd yn Lloegr,” meddai yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw.

Ond fory, fe fydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad yn galw am ymchwiliad fel yr un y mae Syr Bruce Keogh wedi ei gynnal i 14 o ymddiriedolaethau ysbyty yn Lloegr.

Yn ôl yr arweinydd Ceidwadol, Andrew RT Davies, mae lefel uchel o farwolaethau yn ysbytai Cymru’n dangos fod rhywbeth o’i le.

Galw dadl

Mae’r Ceidwadwyr wedi galw dadl am y pwnc ar ôl i adroddiadau ddangos bod lefel marwolaethau yn chwech o saith Bwrdd Iechyd Lleol Cymru yn uwch na’r disgwyl.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y byddai yna ymchwiliad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar ôl i glaf oedrannus gael ei thrin yn wael iawn mewn dau ysbyty.

Mae’r Ceidwadwyr yn Llundain yn gyson yn defnyddio straeon am y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i golbio’r syniad o gael Llywodraeth Lafur yn San Steffan.