Gwnaed y penderfyniad gan Gyngor Gwynedd heddiw
Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cau cartref henoed Hafod y Gest ym Mhorthmadog.
Fe ddywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cyngor ei fod yn “benderfyniad trist” ac mai eu blaenoriaeth yn ystod y misoedd nesaf fydd cefnogi preswylwyr, teuluoedd a gweithwyr y cartref.
Roedd cabinet Cyngor Gwynedd wedi cael adroddiad yn dweud y byddai angen buddsoddiad sylweddol i wella cyflwr yr adeilad a’i wneud yn addas i breswylwyr.
‘Penderfyniad trist’
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Morwenna Edwards, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd:
“Mae hwn yn benderfyniad trist iawn i bawb sy’n gysylltiedig â Hafod y Gest sydd wedi darparu cartref a gofal diogel i lawer o bobl hŷn dros nifer o ddegawdau.
“Ein prif flaenoriaeth fel Cyngor rŵan fydd cefnogi’r preswylwyr, eu teuluoedd a’n staff ym mhob ffordd bosibl drwy’r cyfnod anodd hwn” meddai.
‘Wedi ystyried pob dewis’
Fe ddywedodd y Cynghorydd R H Wyn Williams, yr aelod o gabinet Gwynedd a oedd yn gyfrifol am yr adroddiad bod pob dewis posib wedi ei ystyried.
“Y cam nesaf fydd cynnal trafodaeth lawn gyda phob un o’r preswylwyr a’u teuluoedd i bennu eu dymuniadau, ac asesu eu hanghenion yn llawn er mwyn darparu gwasanaeth diogel ac addas iddynt ar gyfer y dyfodol,” meddai.
“Byddwn hefyd yn cynnal trafodaethau pellach gyda’r staff yn unigol ac yn gwneud pob ymdrech i adnabod unrhyw gyfleoedd i adleoli’r unigolion a effeithir i swyddi addas eraill o fewn y Cyngor.”