Rhybuddion tros ddwy ran o dair o arfordir Cymru
Mae wyth rhybudd llifogydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer arfordir Cymru o’r gogledd orllewin reit i lawr i’r de ddwyrain.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio y gallai’r ardaloedd canlynol fod dan fygythiad os bydd y tywydd yn parhau’n wlyb a gwyllt:

* Penrhyn Llŷn yn ei gyfanrwydd;

* Arfordir Ceredigion;

* Arfordir Sir Benfro;

* Arfordir Sir Gaerfyrddin;

* Aber afon Gwy yn Sir Fynwy;

* yr arfordir rhwng Aberddawan hyd at Bont Hafren.

Mae’r awdurdodau hefyd yn rhybuddio y gallai glawiad a llanw uchel dros nos wneud amodau’n waeth ar gyfer dydd Sul.