Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu sefydlu Gweithgor Iaith Trawsbleidiol gyda’r nod o warchod a meithrin y Gymraeg ledled y ddinas.
Daw’r cyhoeddiad gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Heather Joyce, fel bod pobl yn deall sut mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo yn y brifddinas ac er mwyn sbarduno trafodaeth am ddatblygiad yr iaith yn y dyfodol.
Mae’r cyngor hefyd yn bwriadu trefnu cynhadledd yn y flwyddyn newydd gan ddod a phartneriaid traddodiadol yr iaith a’r rheini nad ydynt yn cael eu cysylltu mor gryf â hyrwyddo’r Gymraeg at ei gilydd i drafod goblygiadau Safonau Iaith newydd Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu cyhoeddi’r safonau newydd ym mis Rhagfyr eleni.
Gwerthfawrogi’r Gymraeg
Dywedodd y Cynghorydd Heather Joyce: “Mae’n briodol fod y Gymraeg yn cael ei gwerthfawrogi gan Aelodau’r Cyngor a’r gymuned ehangach yng Nghymru a dyna pam bod rhaid i ni wneud ein gorau glas i sicrhau y caiff ei gwarchod a’i meithrin.
“Caerdydd yw Prifddinas Cymru ac mae’n bwysig ein bod ni’n gosod esiampl mewn perthynas â’r Gymraeg. Dyna pam fy mod mor falch fod fy ngweinyddiaeth i yn bwriadu sefydlu gweithgor trawsbleidiol i ganolbwyntio ar y Gymraeg yn unig.
“Rydw i hefyd wrth fy modd ein bod ni am sbarduno trafodaeth ynghylch y ffordd orau o hyrwyddo’r Gymraeg yng Nghaerdydd, er gwaetha’r ffaith fod y Cyngor yn wynebu cyfnod ariannol heriol, ac mae’n rhaid i ni fod yn realistig ynghylch yr hyn y mae’n bosibl i ni ei gyflawni.
“Dylem ymgysylltu mwy â sefydliadau sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ac rydw i’n credu, drwy gydweithio gyda’n gilydd yn well – gyda’r Cyngor yn gweithredu fel cydlynydd – gallwn gyfoethogi’r profiad o ddefnyddio’r Gymraeg yng Nghaerdydd.
“Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda phawb i sicrhau bod y weledigaeth honno yn cael ei gwireddu.”