Mae’r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi croesawu cyhoeddiad Prif Weinidog y DU y bydd rhai trethi a phwerau benthyg cael eu datganoli i Gymru.

Gwnaeth David Cameron y cyhoeddiad gyda’i ddirprwy Nick Clegg ym Mae Caerdydd fore heddiw. Yn ogystal â datganoli rhai cyfrifoldebau, Llywodraeth Cymru fydd yn cael yr hawl i alw refferendwm am ddatganoli pwerau treth incwm.

Diwrnod pwysig yn hanes Cymru

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ei fod yn “ddiwrnod pwysig yn hanes Cymru” ond ychwanegodd ei fod yn siomedig bod y dreth ar hedfan heb gael ei datganoli hefyd.

“Mae’n dangos ein bod yn cael ein trin yn gyfartal fel partneriaid o’r Deyrnas Unedig. Mae’r pecyn yn un swmpus, ond r’yn ni’n siomedig nad yw’r dreth ar hedfan yn cael ei datganoli.

“Ond hefyd r’yn ni wedi cael pwerau benthyg sy’n golygu y gallwn ystyried yr opsiwn o wella’r M4.

“Ni  ar ddeall mai’r bwriad (llywodraeth y DU) yw deddfu ar y mater a phasio’r ddeddf cyn diwedd y Senedd bresennol. Mae’n dangos bod hi’n bosib i ddatganoli fod yn hyblyg ac mae hynny’n neges bwysig ar draws y Deyrnas Unedig.”

Arweinydd y Ceidwadwyr

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R T Davies, fod ei blaid wedi ymgyrchu yn gyson i argymhellion y Comisiwn Silk gael eu gweithredu.

Ychwanegodd y bydd y pwerau ychwanegol yn rhoi rhywfaint “ateboltrwydd ariannol” i Lywodraeth Cymru.

Kirtsy yn cefnogi

Meddai arweinydd y Democratiaid Ryddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams: “Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cefnogi mwy o bwerau ariannol i’r Cynulliad Cenedlaethol yn gyson.

“Mae’n glod i fy nghydweithwyr mewn llywodraeth bod y cyhoeddiad hwn wedi cael ei wneud ar ôl dros ddegawd o diffyg gweithredu gan y blsid Lafur a misoedd o lesgedd gan y blaid Geidwadol.”

Plaid Cymru

Fe fydd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, yn cynnal sesiwn friffio am hanner dydd, er mwyn cyflwyno ymateb ei phlaid i’r cyhoeddiad heddiw.