Paul Silk, Cadeirydd Comisiwn Silk
Mae Paul Silk, Cadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, wedi croesawu ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i adroddiad y Comisiwn ar ddatganoli pwerau ariannol i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Fe gyhoeddwyd adroddiad cynta’r Comisiwn fis Tachwedd diwetha’, gan wneud 33 o argymhellion ar y modd y dylid datganoli pwerau benthyg a chodi trethi i Gaerdydd.

“Rydw i’n falch fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw wedi ymateb yn gadarnhaol i’n hadroddiad cynta’,” meddai Paul Silk.

“Roedd cefnogaeth a chytundeb traws-bleidiol i’n hadroddiad ni, ac fe gafodd dderbyniad cynnes gan y Cynulliad a gan y byd busnes yng Nghymru,” meddai wedyn.

“Mae cyhoeddiad heddiw yn gam pwysig ar y ffordd o roi mwy o rym i’r Cynulliad. Rydyn ni’n credu fod hynny’n hanfodol ar gyfer datganoli yng Nghymru.

“Fe wnaethon ni argymhellion yr ydyn ni’n credu a fyddai’n cryfhau Cymru o fewn y Deyrnas Unedig, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr argymhellion hynny’n cael eu gweithredu.”

Ar hyn o bryd, mae’r Comisiwn yn gweithio ar Ran II o’i waith, sef edrych ar y pwerau sydd gan y Cynulliad mewn perthynas a meysydd sydd ddim yn rhai ariannol. Fe fydd yn cyhoeddi ei ail adroddiad ym mis Mawrth, 2014.