Llys y Goron Caerdydd
Mae bachgen yn ei arddegau sydd wedi ei gyhuddo o geisio lladd dyn digartref wedi dweud bod ei gyd ddiffynnydd wedi ymosod arno bythefnos yn gynharach mewn amgylchiadau tebyg.

Cafodd Kazlausks Vladimirs, sy’n wreiddiol o Latfia, ei guro tra roedd yn cysgu ar y stryd yng Nghasnewydd.

Daeth parafeddygon o hyd i’r dyn 54 mlwydd oed yn anymwybodol  gydag anafiadau difrifol.

Mae dau fachgen , 15 ac 17 oed, o flaen eu gwell yn Llys y Goron Caerdydd wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio.

Mae’r ddau yn cyfaddef bod yn yr ardal ble digwyddodd yr ymosodiad ond maen nhw’n beio ei gilydd am y drosedd.

Cafodd y pâr eu harestio 24 awr ar ôl yr ymosodiad ar  8 Mai’r llynedd. Aethpwyd a Kazlausks Vladimirs i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd lle cafodd ei roi ar beiriant cynnal bywyd.

Cafodd trawsgrifiadau o gyfweliadau’r heddlu eu darllen i’r rheithgor gan yr erlynydd Michael Jones heddiw.

Dywedodd y bachgen hynaf wrth yr heddlu bod y llanc arall wedi ymosod arno tua phythefnos cyn yr ymosodiad ar Kazlausks Vladimirs.

Mae’r bechgyn – na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol – yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.