Roazhon yn Llydaw
Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio efo Cyngor Rhanbarthol Llydaw yn Ffrainc ar faterion sy’n cynnwys diwylliant a pholisi iaith, newid hinsawdd a rheoli adnoddau naturiol, addysg ac ymchwil, ac iechyd.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Pierrick Massiot, Llywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw, wedi llofnodi Cynllun Gweithredu sydd wedi’i ddiweddaru ac a  fydd yn cefnogi ac yn annog cydweithredu rhwng Cymru a Llydaw.

Heddiw cyfarfu’r Prif Weinidog â Madame Forough Salami, yr Is-lywydd â gofal dros Gysylltiadau Rhyngwladol Cyngor Rhanbarthol Llydaw, er mwyn llofnodi’r Cynllun Gweithredu a phwysleisio ymrwymiad Cymru i weithio gyda Llydaw ar feysydd sydd o fudd i’r ddwy wlad.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:

“Fel Llywodraeth, rydyn ni’n rhoi gwerth mawr ar ein perthynas hirsefydlog â Llywodraeth Ranbarthol Llydaw, ynghyd â’r berthynas ehangach a chynnes rhwng pobl Cymru a phobl Llydaw.

“Mae’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad yn mynd yn ôl dros gannoedd o flynyddoedd, a chawsant eu ffurfioli yn 2004 pan lofnodwyd y Memorandwm Dealltwriaeth gwreiddiol.

“Ers hynny rydyn ni wedi gweld mwy a mwy o gysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu atgyfnerthu’n partneriaeth ymhellach eto drwy’r Cynllun Gweithredu diweddaraf hwn. Mae’n amlwg y gallwn sicrhau budd i’r ddwy wlad drwy gydweithio a dysgu oddi wrth ein gilydd.”

Hanes y berthynas swyddogol

Llofnodwyd y Memorandwm Dealltwriaeth rhwng Cymru a Llydaw ym mis Ionawr 2004. Cafodd ei atgyfnerthu ymhellach drwy lofnodi Cynllun Gweithredu yn 2006. Mae’r Cynllun Gweithredu diweddaraf yn pwysleisio’r meysydd lle mae cydweithio’n digwydd ar hyn o bryd ac yn datblygu meysydd newydd o gydweithredu.