Un o drenau Arriva Cymru
Mae teithwyr ar reilffyrdd yng Nghymru’n cael eu rhybuddio i ddisgwyl oedi tros y penwythnos yma oherwydd streiciau.

Fe fydd aelodau o undeb ASLEF yn mynd ar streic yn dilyn ffrae gyda Trenau Arriva Cymru dros gyflogau ac amodau gwaith.

Mae’r cwmni trenau’n dweud na fydd gwasanaethau ddydd Sul na dydd Llun oherwydd y streic gan y gyrwyr sy’n galw am gyflogau gwell.

Fe fydd gwasanaethau dydd Mawrth yn cael eu heffeithio hefyd wrth i bethau ddod yn ôl i drefn.

Mae’r cwmni wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra a galw eto ar yr undeb i roi’r gorau i weithredu.

Y cefndir

Yn ôl Aslef, roedd 70% o’u gyrwyr trenau wedi pleidleisio o blaid cynnal streic, gan ddweud bod cyflogau Arriva Cymru’n is nag mewn cwmnïau eraill. Mae undeb yr RMT hefyd wedi cynnal streiciau.

Dadl y cwmni yw eu bod wedi cynnig cynnydd cyflog sylweddol i’r gyrwyr a hwnnw’n ddigon i godi’r cyflogau i bron £40,000 am 35 awr o waith.

“R’yn ni wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda gydag undebau ASLEF a RMT ers misoedd mewn ymdrech i ddod i gytundeb terfynol dros gyflogau ac amodau gwaith gyrwyr trênau,” meddai Cyfarwyddwr Gweithrediadau Arriva Cymru, Peter Leppard.

“R’yn ni’n siomedig iawn bod ein cynnig hael wedi cael ei wrthod a bod y gweithredu diwydiannol yn mynd yn ei flaen.”