Y Cyrnol Gaddafi
Mae un o’r gweinidogion sydd wedi troi cefn ar y Cyrnol Gaddafi’n dweud fod ganddo brawf mai Arlywydd Libya ei hun oedd wedi gorchymyn yr ymosodiad ar awyren Lockerbie.
Ac, yn ôl y cyn-Weinidog Cyfiawnder, Mustafa Abdel-Jalil, awydd y Cyrnol i guddio’r gwir oedd wedi arwain at yr ymgyrch i gael y bomiwr yn ôl i Libya.
Mae’n dweud fod ganddo brawf mai Gaddafi oedd wedi anfon Abdelbaset al-Megrahi i osod y bom ar yr awyren PanAm a ffrwydrodd uwchlaw’r dre’ yn yr Alban gan ladd 270 o bobol.
Pan ddaeth hi’n amlwg fod al-Megrahi’n mynd i apelio, mae’n dweud bod Gaddafi’n ofni y byddai’r gwir yn dod i’r amlwg ac fe ddechreuodd bwyso am gael y bomiwr honedig yn ôl i Libya.
Roedd y cyn-Weinidog wedi gwneud yr honiadau wrth bapur newydd yr Expressen yn Sweden.