Mae cerddwr 64 oed yn derbyn triniaeth yn Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd ar ôl cael ei daro gan dacsi ger Aberdaugleddau neithiwr.

Digwyddodd y ddamwain toc wedi hanner nos yn Hakin ac mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un welodd y ddamwain i gysylltu â nhw trwy ffonio 101.