Llys ynadon Caernarfon
Bydd ynadon yn trafod cynnig i dyngu llw ar y Beibl neu lyfr sanctaidd arall mewn cynhadledd yng Nghaerdydd heddiw.

Bydd ynadon Cymru a Lloegr yn trafod os yw’r drefn o dyngu llw neu ddatganiad yn addas y dyddiau yma yn ystod eu cynhadledd flynyddol sy’n cael ei chynnal yny brifddinas.

Mae’r cynnig yn awgrymu y buasai gofyn i dystion addo “yn ddiffuant iawn i ddweud y gwir” cyn rhoi tystiolaeth yn well.

Ar hyn o bryd mae tystion yn cael tyngu llw ar y Beibl neu unrhyw lyfr sanctaidd arall neu gwneud datganiad ang- nghrefyddol gerbron ynadon.

Mae’n bosib y bydd rhaid newid y ddeddf os caiff y cynnig ei basio.