Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi croesawu cyhoeddiad gan Ystâd y Goron a fydd yn cynorthwyo Cymru i gyflawni ei huchelgais o arwain ym maes ynni adnewyddadwy’r môr.

Mae Ystâd y Goron, sy’n berchen ar wely’r môr o amgylch arfordir y Deyrnas Unedig, wedi nodi ardaloedd o ddŵr sy’n addas ar gyfer profi ac arddangos prosiectau sy’n defnyddio ynni’r tonnau ac ynni’r llanw.

Dywedodd y Prif Weinidog bod y Llywodraeth Cymru wedi “ymrwymo’n llwyr i elwa i’r eithaf ar ynni’r môr” a bod Cymru’n “leoliad delfrydol ar gyfer prosiectau o’r fath”.

Hyd yma nid yw Ystad y Goron ond wedi rhoi trwyddedau i brosiectau unigol ond golyga’r cyhoeddiad hwn y gall datblygwyr bellach gyflwyno cais i reoli sawl prosiect o fewn y ‘parthau’ newydd.

Mae’r broses ymgeisio bellach ar agor sy’n golygu y gall prosiectau a phobl â diddordeb mewn rheoli’r safleoedd yma ddatgan eu diddordeb.

Cafodd y safleoedd eu dewis ar sail addasrwydd eu nodweddion ffisegol. Mae’r gwaith o brofi ac arddangos prosiectau ynni’r llanw ac ynni’r tonnau yn gam allweddol yn y broses o greu mentrau masnachol ym maes ynni adnewyddadwy.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

“Mae’r dyfroedd byrlymus oddi ar arfordir Cymru yn addas iawn ar gyfer prosiectau ynni’r llanw ac ynni’r tonnau.

“Yn ogystal, golyga ein diwydiant, ein porthladdoedd a’n seilwaith grid presennol fod Cymru’n lleoliad delfrydol ar gyfer prosiectau o’r fath.”