Stadiwm y Mileniwm - digwyddiadau yno wedi cyfrannu
Mae Undeb Rygbi Cymru yn dweud eu bod wedi buddsoddi mwy nag erioed o’r blaen yn rygbi Cymru dros y flwyddyn ariannol ddiwetha’.
Yn eu hadroddiad blynyddol, maen nhw’n dweud eu bod wedi rhoi mwy na £22 miliwn yn ôl yn y gêm – a hynny’n cynnwys £4 miliwn ar rygbi cymunedol a £4.2 miliwn ar rygbi elît.
Roedd y ffigyrau hefyd yn dangos £1m a roddwyd i’r pedwar Rhanbarth, yn benodol er mwyn denu a chadw chwaraewyr, a hybu datblygiad.
Fodd bynnag, mae’r ffigyrau trosiant wedi gostwng ychydig dros yr un cyfnod, o £63.2m yn 2012 i £61m yn 2013.
Digwyddiadau eraill yn cyfrannu
Bu digwyddiadau eraill a gynhaliwyd yn Stadiwm y Mileniwm hefyd yn hwb i goffrau’r Undeb, gan gynnwys gemau pêl-droed a gynhaliwyd yn ystod y Gêmau Olympaidd, cyngherddau, a’r Dydd Ffawd – dwy gêm fawr yr un diwrnod rhwng pedwar rhanbarth Cymru.
Yn ogystal â hyn, fe gafwyd cytundeb newydd gyda’r BBC i sicrhau fod gemau rygbi rhyngwladol yr Hydref yn parhau i gael eu darlledu gand y Gorfforaeth hyd at 2018.
Rhan o’r buddsoddiad yn y Ganolfan Ragoriaeth Cenedlaethol oedd adeiladu siambr cryotherapi a safle ymarfer uchder, tebyg i’r cyfleusterau a ddefnyddiwyd gan dîm Cymru yng Ngwlad Pwyl.
‘Llwyddiant yn ystod trafferthion economaidd’
“Mae’r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw yn brawf clir fod ein busnes bellach ar seiliau cadarn, a’n bod yn medru gweithio’n llwyddiannus hyd yn oed yn ystod cyfnod economaidd heriol,” dywedodd Prif Weithredwr yr Undeb Roger Lewis.
“Byddwn hefyd yn croesawu seremoni agoriadol Cwpan Rygbi’r Gynghrair y Byd yn fuan ac rydym eisoes yn paratoi ar gyfer gemau Cwpan y Byd y byddwn yn eu cynnal yn 2015.
“Mae’n gyfnod gwych i Gymru ac rydym yn falch o chwarae’n rhan i gyflawni hyn.”