Huw Brassington (canol) yn derbyn ei wobr
Mae ras ddiweddara’ mewn cyfres o gystadlaethau triathlon yn dangos fod campau heriol ar gynnydd.
Roedd 700 o gystadleuwyr yn nofio, seiclo a rhedeg ar draeth Niwbwrch dros y Sul, yn ras triathlon Llanc y Tywod. Ac roedd aelod cynulliad diweddara’ Cymru ymhlith y cystadleuwyr.
Roedd digwyddiad mor llwyddiannus yn hwb mawr i economi’r ardal, meddai Rhun ap Iorwerth, yr AC lleol newydd a oedd yn rhedeg 10km yn rhan o dîm.
Cwmni lleol
Roedd un o’r prif enillwyr hefyd yn canmol y ffaith fod y gystadleuaeth – yn wahanol i rai tebyg – yn cael ei rhedeg gan gwmni lleol a bod y Gymraeg yn amlwg.
Mae’r ras, sy’n cael ei chynnal gan y cwmni Camu i’r Copa, yn brysur yn gwneud enw iddi ei hun ym myd y triathlon ac yn llwyddo i ddenu cystadleuwyr o bob rhan o wledydd Prydain.
Hon oedd yr ail mewn cyfres o dair ras wedi eu trefnu gan y cwmni. Bydd Llanc yr Eira yn cael ei chynnal yn wythnos gyntaf mis Hydref yng Nghapel Curig.
Llwyddiant lleol
Huw Brassington sy’n wreiddiol o Landwrog oedd yn fuddugol yn yr adran ‘sbrint’ lle mae’n rhaid nofio 400m, seiclo 18km, a rhedeg 5km.
“Mae cael cystadlu mewn digwyddiad mor broffesiynol a mor agos i adra yn gwneud ennill hyd yn oed yn well” meddai’r darlithydd o Goleg Meirion Dwyfor, Dolgellau.
“Mae’r trefnwyr wedi bod o gwmpas y byd yn cystadlu eu hunain ac wedi gallu dod a’r profiadau hynny yn ôl adra i greu digwyddiad sy’n denu miloedd.
‘Braf clywed Cymraeg’
“Cwmnïau mawr o Loegr sydd fel arfer yn trefnu rasys yng Nghymru ac maen nhw’n cymryd mantais o’n lleoliadau trawiadol ni ac yn mynd ar arian i ffwrdd,” meddai Huw Brassington.
“Mae cael clywed y safleoedd diweddaraf a’r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg yn braf iawn.”
“Roedd y balchder yn amlwg yn y bobol leol hefyd wrth iddynt roi o’i hamser i wirfoddoli a helpu i wneud y ras mor llwyddiannus ag oedd hi.”