Sam Warburton
Fe fydd capten y Llewod, Sam Warburton, yn chwarae tros y Gleision nos Wener.

Fe gadarnhaodd y rhanbarth fod y blaenasgellwr wedi dod yn ôl yn gynt na’r disgwyl ar ôl cael ei anafu ar daith y Llewod.

Dyw e ddim wedi chwarae ers yr Ail Brawf yn Awstralia, pan gollodd y Llewod o 16-15 – fe fu rhaid iddo wylio o’r ochr wrth i’w dîm ennill y gyfres yn y prawf ola’.

Yn ôl cyfarwyddwr rygbi Gleision Caerdydd, Phil Davies, fe fydd Warburton yn cymryd rhan yn y gêm Pro 12 yn erbyn Leinster nos Wener.

‘Anhygoel’

Fe ddywedodd Phil Davies wrth wefan y rhanbarth fod y blaenwr yn eiddgar ofnadwy i ailddechrau chwarae.

“Mae Sam eisiau chwarae ac mae wedi gwneud gwaith anhygoel, ynghyd â’r ffysios a’r adran feddygol,” meddai.

“Mae bum wythnos o flaen yr amserlen ac mae hynny oherwydd ei ddycnwch a’r tîm fan hyn.”