Mae Ysgol Uwchradd y Dwyrain yng Nghaerdydd yn parhau i fod ynghau eto heddiw ar ôl i facteria sy’n achosi Clefyd y Llengfilwyr gael ei ddarganfod yno.

Bu’n rhaid cau’r ysgol newydd ddydd Mercher diwetha’ ar ôl agor am dridiau yn unig.

Yn ôl datganiad gan Gyngor Caerdydd, mae gwaith yn cael ei wneud ar system ddŵr yr ysgol.

Dywedodd y datganiad hefyd nad oedd y bacteria yn peri llawer o risg i iechyd a’i fod yn cael ei ddarganfod yn aml yn yr amgylchedd. Nid yw’n gallu cael ei basio rhwng pobol na chwaith drwy yfed dŵr neu olchi dwylo.

Fe agorwyd yr ysgol ddydd Llun ar gyn safle Ysgol Llanrhymni a Tredelerch ac mae’n cyfuno 1,500 o ddisgyblion o’r ddwy ysgol.

Mae disgwyl i’r ysgol hysbysu’r rheini am ailagor yr ysgol rywbryd heddiw.