Mae bwrdd llywodraethu’r Eglwys yng Nghymru wedi penderfynu  caniatáu ordeinio merched yn esgobion yn dilyn pleidlais hanesyddol heddiw.

Roedd  144 o aelodau’r bwrdd llywodraethu wedi pleidleisio ar y bil mewn cyfarfod yn Llanbedr Pont Steffan yn ystod y dydd.

Roedd angen mwyafrif o ddwy ran o dair o bob un “tŷ” y bwrdd llywodraethu, sef esgobion, clerigwyr a lleygwyr.

Roedd 57 o’r lleygwyr wedi pleidleisio o blaid ac 14 yn erbyn, a’r Clerigwyr yn cefnogi’r bil o 37 i 10. Roedd yr esgobion yn unfrydol o blaid.

Roedd y bil gwreiddiol yn golygu na fyddai merched wedi cael eu hordeinio yn esgobion yn syth, ac y byddai’n rhaid pasio ail fil er mwyn sicrhau darpariaeth i wrthwynebwyr. Ond cafodd gwelliant ei basio yn galw am bleidlais uniongyrchol ia neu na.

Cafodd bil ar ordeinio merched ei drechu o dair pleidlais yn unig ym mis Ebrill 2008.

‘Hir-ddisgwyliedig’

Yn ol cefnogwyr a grwpiau hawliau merched roedd y penderfyniad yn “hir-ddisgwyliedig” – roedden nhw wedi dadlau bod peidio caniatau i ferched gael eu hordeinio yn gwneud yr Eglwys yn llai perthnasol i gymdeithas fodern.

Dywedodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan ar y Post Prynhawn: “Does dim byd yn y Beibl yn dweud na ddylwn ni ordeinio merched. Does dim byd yn y Beibl yn dweud y dylwn ni ordeinio dynion chwaith.

“Dwi ddim yn disgwyl y bydd pobol yn llifo mewn i’n heglwysi ond fydd pobol ddim yn edrych arnon ni’n syn rŵan. Fydd pobol ifanc ddim yn edrych arnon ni a gofyn pam nad ydan ni’n rhoi lle i ferched. Bydd y ddadl honno wedi mynd.”

Roedd gwrthwynebwyr wedi dadlau y byddai’n creu hollt o fewn yr Eglwys petai’r bil yn cael ei basio.