Bydd Cabinet Cyngor Sir Penfro yn trafod cynnig heddiw i adolygu darpariaeth addysg uwchradd yn Nhyddewi.

Os yw’r Cabinet yn cytuno bod angen adolygiad, bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno fis Tachwedd.

Mae rhai yn pryderu ynglŷn â dyfodol yr ysgol uwchradd leol, Ysgol Uwchradd Dewi Sant wrth i’r Cyngor fynd i’r afael â nifer o leoedd gwag yn y sector addysg uwchradd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro wrth golwg360: “Cyfarfod i adolygu cynigion yn unig yw’r cyfarfod heddiw ac ni fydd unrhyw benderfyniad terfynol yn cael eu gwneud.”

Mae rhai adroddiadau’n honni y gallai’r ysgol fod a 20% o lefydd gwag o fewn y pum mlynedd nesaf.