Llun o ganolfan celfyddau Pontio ym Mangor
Gydag agoriad canolfan celfyddydau Pontio ym Mangor y flwyddyn nesaf, mae’r amser wedi dod i ddewis enwau ar gyfer rhannau penodol o’r adeilad ond mae cryn anghydfod wedi codi ynglŷn ag enwi theatr y ganolfan.
Mae’r actores Gaynor Morgan Rees ynghyd â llefarydd Cyfeillion Theatr Gwynedd, Ann Jones, yn galw ar y Brifysgol i enwi’r theatr ar ôl sylfaenydd Theatr Gwynedd, Wilbert Lloyd Roberts, tra bod Cyngor y Brifysgol yn awyddus i’w henwi’n ‘Theatr Bryn Terfel.’
Bydd y theatr yn gyrchfan canolig i’r sefydliad ac yn cynnal dramâu Cymraeg a Saesneg, comedi, cerddoriaeth glasurol a llawer mwy.
Eisoes mae aelodau o Gyfeillion Theatr Gwynedd wedi bod wrthi’n casglu enwau ar gyfer deiseb yn galw ar y Brifysgol i enwi’r sefydliad yn ‘Theatr Wilbert Lloyd Roberts’ ac maen nhw wedi derbyn 100 o enwau ar ôl un diwrnod o ymgyrchu yn unig. Maen nhw hefyd wedi bod yn llythyru’r Brifysgol i geisio dwyn perswâd arnyn nhw.
Dywedodd Ann Jones: “Oni bai am Wilbert Lloyd Roberts, fysa yna ddim Theatr Gwynedd. Fo ddaru gychwyn Cwmni Theatr Cymru a hyfforddi llu o actorion gan gynnwys Gaynor Morgan Rees, Cefin Roberts a Dyfan Roberts. Mi fyswn ni’n siomedig iawn, iawn petai nhw ddim yn enwi’r theatr ar ôl Wilbert Lloyd Roberts.”
Prifysgol yn ffafrio Terfel
Ond mewn ymateb, dywedodd Prifysgol Bangor mai Bryn Terfel yw’r enw sy’n cael ei gynnig gan Gyngor y Brifysgol. Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G Hughes: “Er nad oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud eto, mae Cyngor y Brifysgol yn cynnig enwi’r theatr yn ‘Theatr Bryn Terfel’.
“Mae’r seren opera o Wynedd, sydd yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Bangor, yn enw mawr rhyngwladol yn y celfyddydau, ac mae eisoes wedi lleisio ei gefnogaeth i Pontio. Mae wedi datgan ei fod yn falch iawn o’r cynnig.”
Ychwanegodd yr Athro Hughes: “Mae’r Brifysgol yn cydnabod fod yna unigolion eraill sydd wedi chwarae rhan bwysig yn y celfyddydau ac ym myd arloesi yng Nghymru gan gynnwys Wilbert Lloyd Roberts, a bydd y Brifysgol yn ystyried sut y gall y cyfraniadau hynny gael eu cydnabod, yn ogystal â chyfraniad ein harianwyr a’n noddwyr.”