Darren Millar
Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi cyhuddo Carwyn Jones o dorri addewid ynglŷn â thargedau amseroedd aros i gleifion canser.

Yn ôl y Ceidwadwyr, roedd Prif Weinidog Cymru wedi rhoi addewid ar ddechrau’r flwyddyn i leihau’r amseroedd aros erbyn mis Mawrth eleni ond mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos nad yw hyn wedi digwydd.

Dim ond 81.3% o bobl ar y rhestr aros a ddechreuodd eu triniaeth o fewn 62 niwrnod o’i gymharu â’r targed o 95%.

‘Torri addewid’

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar AC: , “Nid yw’r targedau yma wedi cael eu cyrraedd ers mwy na phum mlynedd ac mae Carwyn Jones wedi torri ei addewid i gleifion canser ynglŷn â lleihau amseroedd amser unwaith eto.

“Mae’r amser aros cyn dechrau triniaeth yn achosi poendod mawr i gleifion canser a’u teuluoedd ac yn amharu ar eu  cyfle i wella.

“Ychydig ddyddiau yn ôl, fe ddywedodd y Rare Cancers Foundation fod cleifion yng Nghymru yn llai tebygol o gael mynediad at driniaeth fodern angenrheidiol nag unrhyw le arall ym Mhrydain.

“Mae hyn newyddion drwg i gleifion ac yn brawf o reolaeth wael Llafur ar y Gwasanaeth Iechyd, ac yn dangos bod cleifion canser yng Nghymru o dan anfantais o’i gymharu â chleifion dros y ffin.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae Byrddau Iechyd Lleol yn parhau i weithio i leihau nifer y bobl sydd yn aros yn hirach na’r amseroedd targed fel rhan o’r cynllun i gyrraedd yr amseroedd targed yn llawn erbyn mis Hydref eleni.”

Yn y cyfamser, mae mwyafrif helaeth o’r cleifion yn cael eu gweld o fewn 31 neu 62 diwrnod yn ôl y Llywodraeth.

“Mae nifer y cleifion yn yr ystadegau yma yn gymharol fach ac mae newid bach yn gallu effeithio ar y darlun cyffredinol.”