Mae ffigyrau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos nad oes un oedolyn mewn gwaith yn un o bob pum cartref yng Nghymru.

Mae’r ffigwr yng Nghymru yn uwch o’i gymharu â’r cyfartaledd ym Mhrydain, – ond ychydig yn is na’r un cyfnod y llynedd.

Yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae nifer y cartrefi sydd ag o leiaf un person allan o waith wedi gostwng i 17.1% tra bod nifer y cartrefi sydd â neb wedi gweithio erioed wedi gostwng i 297,000.

Yng Nghymru yn benodol roedd 121,000 yn ddi-waith yn chwarter cyntaf 2013 tra bod 127,000 yn ddi-waith yn chwarter olaf 2012.

Roedd ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod nifer y rhai sy’n ddi-waith yng Nghymru mis Mai 6,000 yn llai na’r cyfnod rhwng Ionawr a Mawrth.

Dywedodd y Gweinidog  Cyflogaeth, Mark Hoban AS, “Mae rhoi cymorth i bobl symud oddi ar fudd-daliadau i waith yn un o flaenoriaethau’r Llywodraeth, felly mae’n newydd da fod nifer y cartrefi sydd â phobl ddi-waith wedi gostwng dros 425,000 ers i’r Glymblaid ddod i rym.”

Y gogledd ddwyrain sydd â’r canran uchaf o bobl yn ddi-waith gyda 23% heb swydd tra bod y de ddwyrain â’r canran isaf, 13%.