Mae damwain wedi digwydd bore ʼma mewn ras geir 4×4 yng Nglyn-nedd.
Yn ôl y Gwasanaeth Tân, digwyddodd y ddamwain ychydig cyn 10.45 y bore yn Walters Arena ger Glyn-nedd yn ystod ras Brenin y Cymoedd.
Cafodd y gyrrwr ei dorri’n rhydd o’i gerbyd gan y gwasanaethau achub.
Does dim mwy o wybodaeth am y ddamwain na chyflwr y gyrrwr ar hyn o bryd.