Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dau ddyn yn dilyn derbyn adroddiad am ladrad bore heddiw ym Maesteg.

Digwyddodd y lladrad honedig mewn siop ar Stryd Fictoria ym Maesteg am 10.16 y bore.

Mae’r Heddlu am ddiolch i drigolion Maesteg “am eu hamynedd a’u cymorth”, gan hefyd apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â ditectifs ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar y rhif 01656 655555 est 21240 neu drwy ffonio 101.