Mae marwolaeth seiclwr a ddisgynnodd oddi ar ei feic bellach yn cael ei drin fel llofruddiaeth.

Cafodd y dyn 63 oed, o ardal Pontypwl, ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd mewn cyflwr difrifol. Roedd wedi cael anafiadau difrifol i’w ben yn Stryd George, Pontnewynydd, yn Nhorfaen am 6.10 bore dydd Mercher.

Bu farw ychydig oriau’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Dywed Heddlu Gwent eu bod wedi arestio pedwar o bobl ar amheuaeth o lofruddio.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod tri dyn 18, 19, a 23 oed ac un ferch 19 oed wedi’u harestio. Maen nhw i gyd yn dod o ardal Pontypwl ac yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.