Mae yna bryderon am ddiogelwch cerddwyr a rhedwyr tra bydd Ras yr Wyddfa’n cael ei chynnal ddydd Sadwrn.

Cafodd llwybr y ras ei newid eleni, sy’n golygu y bydd yn rhaid i’r rhedwyr redeg ar ddarn o’r llwybr sydd fwyaf poblogaidd ymhlith cerddwyr.

Mae disgwyl i 600 o bobol gymryd rhan yn y ras, sydd wedi’i chynnal ers 38 o flynyddoedd erbyn hyn, ac yn ôl y trefnwyr, fe allai’r llwybr greu perygl.

Dywed y trefnwyr eu bod nhw’n bwriadu gofyn am atal pobl rhag cerdded ar y mynydd tra bydd y ras yn cael ei chynnal yn y dyfodol.

Cyn hyn, roedd modd i redwyr redeg i lawr y rheilffordd ar gyfer y chwarter milltir olaf, ond dydy hynny ddim yn bosibl eleni.

Ar wefan y digwyddiad, dywed un o’r trefnwyr, Stephen Edwards: “Mae wir yn anhygoel.

“Mae’r ‘buzz’ yn y pentref bach hwn ar benwythnos Ras yr Wyddfa’n anghredadwy.

“Rhaid i chi fod yma i ddeall hynny.

“Mae’r ras yn golygu cymaint i ardal ac i bobol Llanberis.

“Maen nhw’n falch o’r ras a’r hyn mae’n ei bortreadu i’r miloedd o ymwelwyr sy’n dod yma ar gyfer y ras a’r penwythnos.”

Fe fydd Cwpan yr Wyddfa’n cael ei chynnal cyn y Ras, sy’n golygu bod rhedwyr yn rhedeg un ffordd tua’r copa er mwyn ennill.