Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud y byddai’r Cynulliad yn torri ei Ddeddf Iaith ei hun pe bai’n derbyn cynllun iaith newydd yr wythnos hon.
Yn ôl y Ddeddf Ieithoedd Swyddogol, mae tair prif egwyddor newydd yng nghyfraith iaith Cymru, sef yr hawl i bobol gymryd rhan mewn trafodaethau yn Gymraeg, trin y ddwy iaith yn gyfartal a statws swyddogol i’r Gymraeg a’r Saesneg.
Ar y pryd, dywedodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler fod y ddeddfwriaeth yn “hanesyddol”.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn honni nad yw’r Cynulliad wedi rhoi digon o ystyriaeth i egwyddorion y ddeddf newydd.
Mewn llythyr at Lywydd y Cynulliad, maen nhw’n nodi mwy na 20 o enghreifftiau o dorri’r Ddeddf.
Dywed y Gymdeithas y byddai Aelodau’r Cynulliad yn torri’r Ddeddf pe baen nhw’n cymeradwyo’r cynllun iaith newydd yr wythnos hon.
Llythyr at Lywydd y Cynulliad
Yn y llythyr, dywed llefarydd hawliau’r Gymdeithas, Sian Howys: “Nid yw’n ymddangos eich bod wedi ystyried goblygiadau’r newidiadau deddfwriaethol yn llawn, ac felly credwn fod y cynllun iaith yn torri’r gyfraith newydd.
“Yn ôl y cynllun, ni fydd hawl gan bobl i ddefnyddio’r Gymraeg, ond, yn hytrach, rhyddid i gael dim ond rhai o’r dogfennau, briffiau a gwasanaethau yn Gymraeg, tra bydd popeth ar gael yn Saesneg.
“Yn hytrach na thrin y ddwy iaith ar y sail eu bod yn gyfartal, mae nifer o gymalau yn trin y Saesneg fel yr iaith ddiofyn, tra bod y Gymraeg yn cael ei thrin fel iaith ychwanegol mae rhaid optio mewn iddi.
“Yn ogystal, ers y nawdegau, dehonglwyd Deddf Iaith 1993 fel bod rhaid darparu dogfennau yn Gymraeg a’r Saesneg ar yr un pryd, ond eto hyd yn oed gyda gofyniad statudol uwch y Ddeddf Ieithoedd Swyddogol, nid oes ymrwymiad i sicrhau bod fersiynau Cymraeg dogfennau a gwasanaethau Cymraeg ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd.
“Yn ein barn ni, ni fyddai’r dogfennau nad ydych yn bwriadu eu cyhoeddi yn Gymraeg ar yr un pryd â’r Saesneg yn bodloni gofyniad y Ddeddf newydd.”
Torri gwariant y Gymraeg
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi crybwyll y posibilrwydd y gallai achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn erbyn y Cynulliad yn y dyfodol, ond maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n awyddus i hynny ddigwydd.
Mae gwariant y Cynulliad ar y Gymraeg wedi gostwng 16% dros gyfnod o dair blynedd, sy’n cyfateb i £135,618.
Ond mae gwariant y Cynulliad yn gyffredinol wedi codi’n uwch na lefel chwyddiant.
‘Troi’r cloc yn ôl ugain mlynedd’
Ychwanegodd Sian Howys: “Mae’n bwysig gosod Cynllun Ieithoedd y Cynulliad ar sylfeini cadarn.
“Mae’n ymddangos bod y Cynulliad dan yr argraff bod ei ‘wasanaethau dwyieithog’ yn arloesol ac yn rhagorol, ond dydyn nhw ddim hyd yn oed yn cael y pethau sylfaenol yn iawn mewn gwirionedd.
“Mae gweddill y sector cyhoeddus yn symud i ffwrdd o gynlluniau iaith tuag at safonau iaith, ac mae’r cynllun amwys di-uchelgais hwn gan y Cynulliad, yn llawn geiriau gwag ac esgusodion yn enghraifft o hen drefn y cynlluniau iaith ar ei gwaethaf.
“Mae’n gyfystyr â throi’r cloc yn ôl ugain mlynedd.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad: “Mae Comisiwn y Cynulliad yn gwbl hyderus bod y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft yn cydymffurfio â’r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol.“Rydym o’r farn bod y Cynllun yn dangos, heb amheuaeth, ein bod yn arwain y ffordd o ran galluogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ac wrth iddynt ymgysylltu â chorff deddfu Cymru.
“Mae’r cynllun yn dangos yn glir ein bod yn benderfynol iawn o wella’r gwasanaethau dwyieithog rydym ni’n eu darparu i Aelodau, ein staff a’r cyhoedd ac i wneud y Cynulliad yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog.
“Mae Aelodau, a’r cyhoedd yn ehangach, wedi gwneud gwaith craffu trwyadl ar ddatblygiad y Cynllun Ieithoedd Swyddogol a chaiff ei drafod eto yn ystod sesiwn lawn o’r Cyfarfod Llawn ar 17 Gorffennaf.”