Mae Bannau Brycheiniog yn cael eu defnyddio'n rheolaidd ar gyfer ymarferion milwrol
Mae dau filwr wedi marw ac un arall yn ddifrifol wael ar ol cymryd rhan mewn ymarferion ar Fannau Brycheiniog ddoe.

Y gred yw yw mai gwres yr haul oedd wedi cyfrannu at farwolaeth y ddau filwr – cododd y tymheredd i 29.5 gradd C ddydd Sadwrn.

Dywed llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn  eu bod nhw’n gweithio gyda Heddlu Dyfed Powys i ymchwilio i’r digwyddiadau gerllaw canolfan Storey Arms.

Ychwanegodd fod teuluoedd y milwyr wedi cael eu hysbysu.

Mae’r Bannau’n cael eu defnyddio’n rheolaidd gan y fyddin i hyfforddi milwyr, gan gynnwys lluoedd elît fel yr SAS. Mae’n cael ei ystyried yn ardal addas i baratoi milwyr yn gorfforol a meddyliol ar gyfer maes y gad, ond gall ei dirwedd brofi’n beryglus.