Mae miloedd o deithwyr, gan gynnwys rhai ym maes awyr Caerdydd, yn wynebu oedi heddiw wrth i gwmni rheoli traffig awyr gael problemau technegol yn eu canolfan reoli yn Hampshire.

Mae’r problemau yn golygu fod cwmni Nats (National Air Traffic Control Services), sydd â chanolfan yn Swanick, wedi gorfod cyfyngu nifer yr awyrennau sy’n hedfan dros dde Lloegr gan gynnwys rhai sy’n codi o feysydd awyr yr ardal.

Dywedodd llefarydd ar ran Nats fod oedi yn anochel.

“Rydym yn cael problemau technegol yn ein canolfan reoli yn Swanick ac yn gweithio i geisio atgyweirio’r system fel ei bod yn gweithio’n iawn. Nid yw hyn wedi cau’r awyrlu nac wedi atal awyrennau rhag cyrraedd a gadael y DU.”

Mae Nats yn gyfrifol am gyfarwyddo awyrennau sy’n hedfan trwy awyrle Prydain ynghyd â nifer o faesydd awyr cenedlaethol a rhyngwladol.