Mae Aelod Cynulliad Gogledd Cymru y Ceidwadwyr, Mark Isherwood wedi dweud bod angen gwneud mwy o ymdrech i farchnata gogledd-ddwyrain Cymru.

Dywed fod diffyg sylw Llywodraeth Cymru i’r rhanbarth yn golygu ei bod hi’n colli allan ar filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Yn ystod dadl heddiw ar yr economi wledig, dywedodd Mark Isherwood fod 50% o ymwelwyr yn y DU sy’n dod i Gymru yn mynd i ardaloedd gwledig.

Ond, meddai, dim ond unwaith mae’r gair ‘gwledig’ yn ymddangos yn Strategaeth Twristiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae’r diwydiant twristiaeth yn cynhyrchu £166 miliwn i economi Sir y  Fflint bob blwyddyn, meddai, gan sicrhau swyddi a chefnogi’r economi leol.

Dywedodd: “Cafodd Cymdeithas Dwristiaeth Sir y Fflint ei sefydlu er mwyn cyflwyno gwaith cydweithredol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac i wella brand a delwedd ardaloedd y ffin yng ngogledd Cymru.

“Mae gogledd-ddwyrain Cymru o fewn cyrraedd 15.5 miliwn o ymwelwyr posib – sy’n fwy nag y gall Caerdydd alw arnyn nhw.

“Rhaid ei marchnata hi yng nghanolbarth a gogledd-orllewin Lloegr.”

Ychwanegodd Mark Isherwood y dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo safle Pontcysyllte yn well.

Mae’n un o safleoedd treftadaeth UNESCO y byd.

Dywedodd Mark Isherwood fod grwpiau sy’n cefnogi pobol ag anableddau wedi dweud y byddai mwy o dwristiaid yn dod i’r ardal pe bai’n cael ei hystyried yn fwy hygyrch.

Ond mae Grŵp Hygyrchedd Arfon, sydd wedi bod yn cynnal arolwg, wedi dweud nad oes digon o ddeunydd hygyrch ar gael ar gyfer pobol ag anableddau.