Bydd Capten y Llewod, Sam Warburton, yn cael sgan heddiw ar ôl iddo gael ei anafu yn ystod ail hanner y gêm brawf ym Melbourne ddoe.

Roedd yn rhaid iddo adael maes y gad 13 munud cyn diwedd y gêm. Collodd y Llewod y gêm o un pwynt.

Bydd Warburton yn aros ym Melbourne heddiw er mwyn cael y sgan ac yna bydd yn ymuno â gweddill y garfan yn Noosa yn Queensland yfory.

Mae’n edrych yn debyg mai anaf i’w llinyn gar ydi’r broblem.

Bydd y gêm brawf olaf yn cael ei chynnal yn Sydney dydd Sadwrn.