Jonathan de Guzman
Bydd Jonathan de Guzman yn chwarae i dîm pêl-droed Abertawe y tymor nesaf.

Mae Cadeirydd yr Elyrch, Huw Jenkins, wedi cadarnhau heddiw y bydd y chwaraewr dawnus o’r Iseldiroedd, Jonathan de Guzman, yn aros ar fenthyg yn ne Cymru ar ôl i Abertawe a chlwb de Guzman, Villerreal, ddod i gytundeb.

Mi wnaeth Jonathan de Guzman sgorio wyth o goliau y tymor diwethaf, ac mae’n gobeithio sgorio llawer mwy o goliau y tymor nesaf.

“Dwi wedi cael blwyddyn wych yn Abertawe,” meddai. “Mae’r bobol o amgylch y clwb, a’r cefnogwyr wedi fy nhrin i’n dda.

“Mi wnaethon ni chwarae’n dda mewn llawer o gemau. Mi wnaethon ni chwarae pêl-droed da.”

Dywedodd fod y tîm wedi bod yn greadigol a’u bod nhw wedi rhoi Abertawe ar y map.