Wythnos i heno bydd trigolion gogledd Cymru’n cael y siawns olaf i weld Zombies From Ireland.
Bydd y ffilm, a gafodd ei sgwennu a’i chyfarwyddo gan y canwr Ryan Kift, yn cael ei dangos yn Galeri Caernarfon.
Yn dulyn y dangosiad bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r meistr am ei dechneg.
Fe lwyddodd Ryan Kift i ddenu’r holl actorion i gymryd rhan yn ei ffilm trwy ei dudalen Facebook, a chael pawb ar y set i weithio am ddim.
Glyn Wise
I ddathlu hynny bydd arddangosfa o brops y ffilm a gwaith celf Arfon Jones, a wnaeth y poster, i’w weld yn Galeri cyn y ffilm hefyd.
Mae’r ffilm yn sôn am zombis o Iwerddon sy’n cael eu cludo i Gymru ar long. Maen nhw’n ymosod ar y criw ac yn glanio ar draeth Llanddwyn gan ei gweud hi’n ras i’w stopio rhag croesi Bont y Borth i’r tir mawr.
Ymysg y cast mae ambell wyneb cyfarwydd megis Glyn Wise.
Bydd y ffilm yn cael ei dangos yn Galeri, Caernarfon wythnos i heno am 7:30.