Tywysog Cymru yng Nghymru
Mae’r trethdalwr wedi talu 47% yn llai i’r Tywysog Charles yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o gymhaur efo’r flwyddyn gynt.

Derbyniodd £1.1 miliwn yn llai gan drethdalwyr eleni, yn ôl ei gyfrifon cyhoeddus a gafodd eu cyhoeddi gan Dŷ Clarence.

Mae’n debyg mai’r rheswm am y gwymp yw fod y rhan fwyaf o’i deithiau tramor eleni wedi cael eu hariannu gan y gwledydd yr ymwelodd ef â nhw.

Dim ond £644,000 o gostau ei deithiau tramor ddaeth o’r pwrs cyhoeddus, o’i gymharu ag £1.3 miliwn y flwyddyn gynt.

Gostyngodd ei grant a’i nawdd gan adrannau Llywodraeth Prydain £2.1 miliwn, sy’n cyfateb i gwymp o 47%.

Ond codi 4% (£19 miliwn) wnaeth yr arian a dderbyniodd gan Ddugiaeth Cernyw, y gronfa sydd ar gael i’r darpar-frenin.

Cwympodd ei fil trethi o £70,000 i £4.426 miliwn, sy’n cyfateb i gwymp o 1.5%.