Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe
Daeth cadarnhad bod Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Dinas Diwylliant y DU ar gyfer 2017.

Cyrhaeddodd ail ddinas Cymru restr fer o bedair dinas ar ôl i nifer gael eu torri oddi ar y rhestr hir.

Roedd Aberdeen, Caer, Dwyrain Caint, Hastings a Bexhill-on-Sea, Plymouth, Portsmouth, Southampton a Southend ymhlith y dinasoedd i golli allan.

Cafodd y rhestr fer ei chyhoeddi gan y Gweinidog Diwylliant, Ed Vaizey heddiw.

Derry yw’r Ddinas Ddiwylliant ar gyfer 2013, ac mae’r dinasoedd yn cael eu dewis bob pedair blynedd.

Mae cais Abertawe hefyd yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot.

Cafodd y panel o feirniaid ei gadeirio gan y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr teledu, Phil Redmond.

Bydd Dinas Diwylliant 2017 yn cael ei dewis ym mis Tachwedd.

‘Tynnu cymunedau ynghyd’

Wrth gyhoeddi’r rhestr fer, dywedodd Ed Vaizey: “Hoffwn longyfarch y pedair dinas ar y rhestr fer sydd wedi cyrraedd mor bell â hyn, a’r 11 o ddinasoedd a dreuliodd amser ac a wnaeth gryn ymdrech i gyflwyno ceisiadau.”

Ychwanegodd fod y fraint o dderbyn statws Dinas Diwylliant yn “tynnu cymunedau ynghyd, yn annog twf economaidd ac yn ysbrydoli newidiadau cymdeithasol”.

Dywedodd Phil Redmond: “Roedd hi’n anodd dros ben benderfynu ar restr fer gan fod yr holl geisiadau’n cydnabod grym diwylliant wrth esgor ar newidiadau cymdeithasol ac fe wnaethon nhw gynnig rhaglenni arloesol a diddorol.

“Yn y pen draw, roedd y panel o’r farn fod y pedair dinas ar y rhestr fer wedi cynnig cynlluniau oedd yn uchelgeisiol, yn realistig ac a fyddai nid yn unig yn darparu ar gyfer eu cymunedau ond hefyd yn cynnal momentwm sydd wedi’i greu gan lwyddiant Derry.”

Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at weld cynlluniau terfynol y pedair dinas yn ddiweddarach eleni.

‘Codi proffil Bae Abertawe’

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, David Phillips: “Mae’r cais yn adlewyrchu ein gweledigaeth ar gyfer Bae Abertawe i fod yn fagwrfa diwylliant trwy ganolbwyntio ar gryfderau’r ardal, gan gynnwys ein treftadaeth ddiwydiannol gryf, celf gyfoes sy’n ffynnu, golygfeydd sydd wedi ennill gwobrau a thimau chwaraeon o’r radd flaenaf ar raddfa fyd-eang.

“Byddwn ni nawr yn cydweithio’n agos gyda’n cynghorau sy’n gymdogion, yn ogystal â sefydliadau celfyddydol a diwylliannol lleol, i gryfhau’r cais unwaith eto i sicrhau bod gyda ni bob cyfle i ennill y wobr yn ddiweddarach eleni.

“Byddai ennill y statws anrhydeddus yn codi proffil Bae Abertawe ledled y DU ac yn arwain at ragor o swyddi a buddsoddiad.”

Pe bai’r cais yn llwyddiannus, fe fydd y digwyddiadau yn ystod 2017 yn cynnwys gŵyl ar gyfer cerddorion ifainc newydd, labordy hanes ar safle gwaith copr yr Hafod a phasiant i blant.

Fe allai carfan y Llewod ar gyfer y daith yn 2017 gael ei chyhoeddi yn Abertawe hefyd.