Eurig Salisbury ac Aneirin Karadog yn yr Urdd
Bydd maniffesto cyntaf pobl ifanc Cymru yn cael ei gyflwyno gerbron  Aelodau’r Cynulliad heddiw fel rhan o  gynllun gan Llenyddiaeth Cymru.

Mae dros 200 o bobl ifainc wedi creu eu maniffesto barddonol eu hunain ar gyfer Cymru fel rhan o’r prosiect.

Mae’r prosiect yn gyfle i ofyn cwestiynau, lleisio safbwyntiau a chreu gweledigaeth ar gyfer Cymru’r dyfodol drwy gyfrwng ysgrifennu creadigol.

Gweithdai

Mewn gweithdai gyda’r beirdd Eurig Salisbury, Aneirin Karadog a Martin Daws mae’r bobl ifainc wedi ysgrifennu a recordio ymateb barddonol i’w hardaloedd a’u cymunedau, gan archwilio themâu yn ymwneud â dinasyddiaeth, diwylliant, iaith a thirwedd.

Meddai Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn: “Dim ond y cychwyn yw hyn. Bydd lleisiau unedig y beirdd ifainc yn trafod eu treftadaeth yn arwain at gydweithio pellach gyda cherddorion, gwneuthurwyr ffilm a llawer mwy o bobl ifainc.

“Mae un llais yn y Maniffesto yn dweud ‘Rwy’n caru ysbrydoliaeth… yn caru uchelgais’. Cefais fy ysbrydoli’n fawr wrth wrando ar y Maniffesto, ac rwy’n gobeithio y bydd pawb fydd yn ei glywed yn cael eu hysbrydoli hefyd.”

Lleisiau dros Gymru

Bu aelodau o Sgwad ‘Sgwennu Merthyr, plant yn Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro a disgyblion Ysgol y Berwyn, Y Bala, yn cydweithio â Bardd Plant Cymru, Aneirin Karadog a Chynfardd Plant Cymru, Eurig Salisbury drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bu Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru, Martin Daws, yn cynnal gweithdai gyda phobl ifainc o Drebiwt, Ysgol Uwchradd  Archbishop McGrath, Gofalwyr Ifainc Ystradgynlais, Gofalwyr Ifainc Y Trallwng, Ysgol Uwchradd Llanfyllin, Grŵp Ieuenctid Gaba yn Llanfyllin, Ysgol y Gorlan, Tremadog ac Ysgolion Tregarth a Bodfeurig ym Methesda.

Mae’r bobl ifainc wedi cael eu gwahodd gan Aelodau Cynulliad i adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd prynhawn ma  i gyflwyno’r Maniffesto i aelodau’r cyhoedd a gwahoddedigion.

Cyfle gwych

Meddai Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru: “Cefais y fraint o gydweithio gyda dau grŵp o bobl ifainc, un ym Merthyr a’r llall yn Eisteddfod yr Urdd.

“Mae wedi bod yn gyfle gwych i roi tudalen  wag i’r bobl ifanc i gael ei llenwi gyda’u dyheadau a’u gobeithion ar gyfer Cymru well. Roedd aelodau’r gweithdai i gyd yn deall pwysigrwydd y dasg o’u blaen ac yn dangos dawn meddwl a dawn i fynegi eu hunain yn rhagorol wrth osod y meddyliau mewn i gerddi.”

Bydd Y Maniffesto ar gael i wrando arno ac i’w ddarllen ar-lein ar www.llenyddiaethcymru.org www.barddplantcymru.co.uk a www.youngpeopleslaureate.org