Georgia Williams
Mae teulu a ffrindiau Georgia Williams wedi sefydlu elusen er cof amdani.

Diflannodd Georgia o’i chartref yn Wellington, Sir Amwythig ar Fai 26, a chafodd ei chorff ei ddarganfod yn Nant-y-Garth rhwng Rhuthun a Wrecsam ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach.

Dangosodd profion post-mortem bod pwysau wedi cael ei roi ar ei gwddf.

Bydd ei hangladd yn cael ei gynnal yn Wellington ddydd  Gwener.

Mae Jamie Reynolds, 22 oed, wedi ei gyhuddo o’i llofruddio, ac fe fydd e’n ymddangos gerbron Llys y Goron Stafford ar Fedi 6.

Bydd yr elusen yn helpu i gefnogi pobol ifanc a sefydliadau elusennol oedd yn bwysig i Georgia.

Bydd yr elusen yn cydlynu nifer o ddigwyddiadau codi arian sydd wedi cael eu trefnu ers ei marwolaeth.

Bydd yr ymddiriedolwyr yn cynnwys aelodau’r teulu a’i ffrindiau, a chynrychiolwyr o nifer o sefydliadau lleol gan gynnwys Coleg Newydd, Coleg Technoleg Coed Ercall, Heddlu Gorllewin Mercia, Adran Hyfforddi’r Cadetiaid Awyr yn Wrekin a Chlwb Pêl-Droed Telford United.

Mae ei chwaer Scarlett a’i ffrind agos, Steve Millington yn ddau o’r ymddiriedolwyr.

Dywedodd tad Georgia, Steve Williams: “Dyma’n union beth roedden ni fel teulu am ei weld yn digwydd.

“Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud gan bawb wrth godi arian i greu gwaddol a dathlu bywyd Georgia wedi bod yn syfrdanol ac rydyn ni wedi’n cyffwrdd yn fawr.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am bopeth mae pawb wedi’i wneud ac rwy’n annog pawb sydd wedi codi arian i’w roi i Ymddiriedolaeth Georgia Williams unwaith mae wedi’i sefydlu’n llawn.”