David Cameron
Mae disgwyl i 80 o Aelodau Seneddol Ceidwadol – gan gynnwys ASau o Gymru – bleidleisio o blaid gwelliant dadleuol ar Ewrop heddiw er gwaetha penderfyniad David Cameron i gyhoeddi mesur drafft a fyddai’n paratoi’r ffordd ar gyfer refferendwm ar ddyfodol Prydain yn Ewrop erbyn 2017.

Mae pedwar o’r wyth ASau Ceidwadol yn San Steffan wedi dweud eu bod yn bwriadu pleidleisio o blaid y gwelliant, sy’n beirniadu araith y Frenhines am beidio cynnwys deddfwriaeth ar gyfer refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd.

Ymhlith yr ASau o Gymru mae Guto Bebb (Aberconwy), Alun Cairns (Bro Morgannwg), Simon Hart (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) a David Davies (Mynwy).

Mae dau Aelod Cynulliad Ceidwadol  – Paul Davies a Darren Millar – hefyd wedi dweud y byddan nhw pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd petai refferendwm yn cael ei gynnal heddiw.

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones eisoes wedi rhybuddio y byddai Cymru ar ei cholled petai’r DU yn gadael yr UE.

Mae Alun Cairns wedi mynnu nad yw’r bleidlais yn arwydd o rwyg o fewn y blaid ond yn hytrach yn dangos ymrwymiad y blaid i gynnal refferendwm ar y mater, er gwaethaf gwrthwynebiad y Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond mae’r camau diweddaraf wedi creu tensiynau pellach o fewn y blaid ac mae ’na feirniadaeth wedi bod o’r modd mae David Cameron wedi delio a’r sefyllfa, gydag eraill yn rhybuddio nad yw ei fesur drafft yn mynd yn ddigon pell. Mae David Cameron am sicrhau cytundeb newydd ar berthynas y DU  â’r Undeb Ewropeaidd cyn i refferendwm gael ei gynnal.

Fe allai’r gwelliant gael ei gyflwyno fel mesur preifat ond mae’n debygol na fyddai’n llwyddo.