Mae’r ffrae tros sylwadau gafodd eu gwneud am Cefin Roberts, sylfaenydd Ysgol Glanaethwy, ar wefan Twitter, wedi ei setlo, yn ôl cyfreithwyr.

O ganlyniad, fe fydd arian y mae’r ysgol berfformio yn ei dderbyn fel iawndal, yn cael ei ddefnyddio i sefydlu ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr ac i hyrwyddo gwaith Glanaethwy.

Roedd y sylwadau wedi eu gwneud yn wreiddiol ar wefan Twitter gan rywun yn dwyn y ffugenw ‘Cadno Canna’, gan gyfeirio at Cefin Roberts yn benodol. Roedd Cefin Roberts yn credu fod y sylwadau’n rhai difrïol ac enllibus.

Ond wedi hynny, fe gafodd y sylwadau eu hail-drydar fel ‘re-tweet’ gan Gwion Owain, ymgynghorydd cyfryngol o Benygroes ger Caernarfon, ac fe gafodd llythyr cyfreithiol ei anfon ato gan gyfreithwyr Cefin Roberts.

Heddiw, fe ddaeth cadarnhad gan yr un cyfreithwyr fod yr achos wedi ei setlo.

Mae hynny’n golygu fod Gwion Owain yn cyhoeddi ymddiheuriad llawn a dwyieithog ar ei gyfri’ Twitter, ac yn addo peidio â chyhoeddi sylwadau difrïol pellach yn erbyn Cefin Roberts, Ysgol Glanaethwy, disgyblion na staff yr ysgol berfformio yn y dyfodol.

Mae Gwion Owain hefyd, yn ôl cyfreithwyr Cefin Roberts, wedi addo talu swm – nad ydyn nhw’n fodlon ei ddadlennu – i’r ysgol. A’r swm hwn fydd yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo gwaith Ysgol Glanaethwy ac i sefydlu ysgoloriaethau.