Mae cerddorfa wynt o fath arbennig wedi’i sefydlu yng Nghaerdydd, er gwaethaf y toriadau sylweddol ym maes cerddoriaeth yng Nghymru.
Mae Cardiff Symphonic Winds yn fenter gymunedol sydd wedi cael ei sefydlu gan athrawon cerddoriaeth, myfyrwyr, cerddorion amatur a cherddorion llawrydd.
Cafodd ei sefydlu er mwyn tynnu sylw at y toriadau ym maes cerddoriaeth, ac er mwyn “pontio’r agendor yn y celfyddydau yng Nghymru”.
Bydd y fenter yn cael ei lansio’n swyddogol ar Fai 18, gyda chyngerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Bydd prif drwmpedwr Cerddorfa Symffoni Llundain, Philip Cobb yn westai arbennig ar y noson.
Cymerodd e ran yn seremoni cau’r Gemau Olympaidd yn Llundain y llynedd, ac mae e wedi ymddangos ar draciau sain ffilmiau fel Harry Potter.