Mae un o raglenni plant S4C wedi ei henwebu am Wobr Rockie yng Ngŵyl Cyfryngau’r Byd yn Banff, Canada.

Mae ‘Dwylo’r Enfys’ wedi cael enwebiad yng nghtegori Rhaglenni Ffeithiol i Blant (2+). Mae’r rhaglen yn dysgu plant i arwyddo gan ddefnyddio’r iaith Makaton yn y Gymraeg.

Rhaglen ieithyddol yw Makaton sy’n defnyddio lleferydd, arwydd a symbol i annog cyfathrebu ac mae’n system sy’n cael ei defnyddio gan dros 100,000 o blant ac oedolion dros y byd.

Mae Gwobrwyon Cyfryngau’r Byd Banff – sy’n adnabyddus fel y Rockies – yn gynllun gwobrwyo sy’n dathlu’r gorau mewn teledu rhyngwladol a chynyrchiadau cyfryngau digidol.

Newyddion ardderchog

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Rhaglenni Plant S4C:

“Mae’n newyddion ardderchog bod cyfres boblogaidd Dwylo’r Enfys wedi cael ei henwebu yn yr ŵyl arbennig yma. Llongyfarchiadau mawr i’r cynhyrchydd Nia Ceidiog, y criw cynhyrchu ac yn enwedig i’r holl blant sydd wedi cymryd rhan yn Dwylo’r Enfys.

“Mae wedi bod yn bleser gweld y gyfres yma yn datblygu o’r egin syniad anfonwyd i S4C gan Ruth Thomas o Bontnewydd tua blwyddyn yn ôl. Roedd Ruth wedi tynnu ein sylw at y ffaith nad oedd modd arwyddo drwy gyfrwng y Gymraeg gyda’i merch, Enfys. Wrth ddatblygu fformat Dwylo’r Enfys, mae rhaglen ieithyddol Makaton Cymraeg wedi datblygu ar y cyd.

“Mae rhaglenni fel hyn yn gyfraniadau gwerthfawr gan S4C i’r byd addysg, ond yn fwy na dim mae wedi bod yn bleser gweld cymaint deuluoedd a phlant yn mwynhau Dwylo’r Enfys ac yn dysgu dull newydd o gyfathrebu.”

Bydd enillydd y categori yn derbyn y wobr mewn cyflwyniad arbennig yng Ngŵyl Cyfryngau’r Byd Banff 2013 ddydd Sul 9 Mehefin. Bydd y seremoni yn cael ei ffrydio’n fyw ar banffmediafestival.com