Mae ymgynghorydd iechyd wedi awgrymu y dylai plant sydd heb gael brechiad MMR beidio mynd i Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro eleni.

Roedd Dr Meirion Evans o Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn siarad ar raglen materion cyfoes S4C, Y Byd ar Bedwar, nos Fawrth pan ddywedodd ei fod yn “annog” plant sydd heb gael y brechiad i gadw draw o’r Eisteddfod sy’n cael ei gynnal rhwng 27 Mai a 1 Mehefin.

Dywedodd Dr Meirion Evans: “Mae ’na berygl, wrth gwrs dod a gymaint o blant ysgol efo’i gilydd yn yr un man, felly r’yn ni’n cynghori nhw i sicrhau bod gwybodaeth yn mynd mas i rieni i gyd ac yn annog nhw i wneud yn siwr bod eu plant wedi eu brechu â’r MMR cyn dod i Eisteddfod yr Urdd.

“Dwi’n credu ei bod hi’n iawn i gynnal Eisteddfod yr Urdd, dim ond i rieni sicrhau bod eu plant nhw’n cael brechiad yr MMR cyn dod i’r Eisteddfod, os nad y’n nhw’n fodlon i’w plant gael brechiad yr MMR fysen ni’n annog bod y plant hynny yn cadw draw o’r Eisteddfod.”

Ymateb yr Urdd

Dywedodd Urdd Gobaith Cymru eu bod nhw’n dilyn y canllawiau maen nhw’n ei gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru parthed y frech goch oherwydd bod Eisteddfod yr Urdd yn ddigwyddiad cyhoeddus.

Meddai’r Urdd mewn datganiad y byddan nhw hefyd yn llythyru holl gystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd yn annog rhieni i wrando ar gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd y datganiad: “Mae plant nad ydyn nhw wedi derbyn dau bigiad o frechlyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR) ac sy’n dod i ddigwyddiadau lle bo llawer o blant eraill yn wynebu perygl.

“Os nad ydy eich plentyn wedi ei frechu’n llawn, ewch at eich meddyg teulu i drafod brechu ar unwaith, os gwelwch yn dda.”

Dal i ladaenu

Ddoe, roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod y frech goch yn dal i ledaenu’n gyflym ac nad oes digon o blant yn cael eu brechu, wrth iddyn nhw gyhoeddi cynnydd yn nifer yr achosion o’r haint yn ardal Abertawe ac ar draws Cymru.

Roedd 22 o achosion newydd o’r frech goch yn ardal Abertawe ers dydd Iau diwethaf, a 32 o achosion mewn rhannau eraill o Gymru.

Mae 1,061 o achosion o’r frech goch erbyn hyn yn ardaloedd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Hywel Dda a Phowys, a 1,224 yng Nghymru gyfan gydag achosion ym mhob un o ardaloedd y byrddau iechyd.

Ond mae nifer y rhai sydd heb gael eu brechu yn yr oedran 10 i 18 ar draws Cymru yn peri pryder, meddai ICC, yn enwedig yn ardal Gwent lle mae mwy na 10,000 yn dal heb gael eu brechu.