Mae dyn anabl o Wynedd wedi dweud ei fod e’n barod i fynd i’r carchar dros hawliau i bobol anabl.

Dywed Nicolas Royal fod y rheolau newydd ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol neu dai Cyngor yn annheg.

Mae’r rheolau’n golygu y bydd tenantiaid o’r fath yn derbyn llai o fudd-dal tai os oes stafell wely sbâr yn y tŷ.

Cafodd Nicolas Royal ei eni â pharlys yr ymennydd, ac mae’n gaeth i gadair olwyn ar adegau.

Mae e’n byw mewn fflat sydd wedi’i addasu ar gyfer ei anghenion.

Dywedodd wrth Golwg yr wythnos hon: “Dwi’n cael relapses a dw i’n colli teimlad o fy ngwddw i lawr a dyna pam y rhoddwyd y fflat yma imi – fel bod gofalwr yn gallu dod yma i aros yn y llofft sbâr a fyddai dim angen gwely mewn ysbyty.”

Darllenwch ragor yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.