Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi cyhoeddi ei bod hi wedi ad-drefnu ei chabinet cysgodol.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn newidiadau i gyfrifoldebau Gweinidogion y Llywodraeth a gafodd eu cyhoeddi ym mis Mawrth.

Bydd Leanne Wood hithau’n gyfrifol am Les, y Cyfansoddiad a Materion Rhyngwladol.

Ieuan Wyn Jones oedd yn gyfrifol am y Cyfansoddiad, ond mae yntau’n cadw ei ddyletswyddau’n ymwneud â chyllid.

Bydd Alun Ffred Jones, a gyhoeddodd heddiw ei fod yn ymddeol ar ol yr etholiadau nesa, yn derbyn rôl ym maes Busnes, yr Economi a Gwyddoniaeth. Fe fu’n gyfrifol gynt am yr Economi ac Ynni.

Mae Dafydd Elis-Thomas bellach yn gyfrifol am Drafnidiaeth a Chymdeithas, yn hytrach na’i rôl Materion Gwledig, Pysgodfeydd a Bwyd gynt.

Bydd Rhodri Glyn Thomas yn parhau i fod yn gyfrifol am Lywodraeth Leol, ond yn ychwanegu Adfywio at ei rôl, oedd yn arfer bod yn nwylo Llyr Huws Gruffydd.

Yr Amgylchedd, Ynni ac Amaeth yw rôl newydd Llyr Huws Gruffydd.

Mae Bethan Jenkins wedi cadw ei rôl Darlledu, Chwaraeon, Diwylliant a Threftadaeth.

Mae Elin Jones yn ychwanegu portffolio Busnes a Phrif Chwip at ei rôl Iechyd, ac mae Jocelyn Davies yn symud i rôl Menywod, Pobol Ifanc a Thai.

Mae rôl Lindsay Whittle wedi newid o’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Plant a Chyfle Cyfartal i’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydraddoldeb a Phobol Hŷn.

Simon Thomas sydd bellach yn gyfrifol am y Gymraeg, gan ychwanegu at ei rôl Addysg a Sgiliau.

‘Helpu i weithio yn fwy effeithiol’

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood:

“Mae gan Blaid Cymru dîm rhyfeddol o Aelodau Cynulliad, sydd wedi profi dro ar ôl tro eu hymrwymiad i weithio er mwyn gwella bywydau pobl Cymru.

“Bydd addasu ein cyfrifoldebau portffolio i’w gwneud yn unol â’r newid yng nghyfrifoldebau’r gweinidogion yn ein helpu i weithio yn fwy effeithiol wrth i ni graffu ar waith y llywodraeth a rhoi ein cynigion cadarnhaol ni gerbron am sut i adeiladu Cymru well.”